Cyfrif Ar-lein

Fel rhan o'n hymrwymiad i'r Datganiad Digidol Lleol, rydym wedi ailddylunio ein porth ar-lein, 'Fy Nghyfrif', i alluogi mynediad digidol haws at ein gwasanaethau. Dylai hyn wella eich profiad fel defnyddiwr, gwella hygyrchedd a defnyddioldeb, a chefnogi defnydd ar ddyfeisiau symudol.

Fel y rheolydd data, bydd Cyngor Sir Penfro yn gwneud y canlynol:

  • ond yn cadw data sydd ei angen arnom i ddarparu gwasanaethau
  • cadw eich cofnodion yn ddiogel ac yn gywir
  • ond yn cadw eich data am gyhyd ag y bydd angen
  • casglu, cadw a defnyddio eich data mewn ffordd nad yw'n torri unrhyw ddeddfau diogelu data

Y pethau y gallwch eu gwneud i'n helpu ni:

  • dweud wrthym pan fo unrhyw un o'ch manylion yn newid
  • dweud wrthym os yw unrhyw beth o'r wybodaeth sydd gennym yn anghywir

Mae'n rhaid inni gasglu a chadw ychydig o ddata ychwanegol wrth ichi greu cyfrif trwy sirbenfro.gov.uk

Mae hyn yn cynnwys:

  • gwybodaeth bersonol sylfaenol sydd ei hangen i sefydlu a dilysu'ch cyfrif, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol a chyfrinair
  • eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP) a'r dyddiadau ac amseroedd y defnyddir eich cyfrif
  • rhif dilysu (AuthID) eich cyfrif cyfryngau cymdeithasol os ydych chi'n cofrestru/mewngofnodi gan ei ddefnyddio
  • unrhyw wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi inni trwy ffurflen ar-lein

Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics i gasglu data am sut yr ydych yn defnyddio'ch cyfrif ar-lein. Mae ein polisi cwcis yn rhoi mwy o wybodaeth am hyn.

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i wneud y canlynol:

  • Sefydlu eich cyfrif sir-benfro.gov.uk a'i gadw yn ddiogel (gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair)
  • anfon codau diogelwch atoch (gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost neu rif ffôn)
  • dweud wrthoch chi am unrhyw newidiadau, ymyriadau wedi'u cynllunio neu broblemau eraill a allai effeithio ar eich cyfrif (gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol)
  • cadw gwybodaeth er mwyn ichi allu ei chyrchu y tro nesaf yr ydych yn mewngofnodi i'ch cyfrif sir-benfro.gov.uk – er enghraifft, cyfeirnodau talu
  • cysylltu'ch cyfrif a'r wybodaeth a gedwir ynddo â systemau eraill a reolir gan Gyngor Sir Penfro
  • ceisio adborth boddhad cwsmeriaid.

 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Efallai y bydd angen inni rannu'ch data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:

  • Y Tîm Etholiadau at ddibenion y canfasiad blynyddol

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, gall yr wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma https://www.cifas.org.uk/fpn

Hysbysiadau preifatrwydd adrannol

Trwy greu cyfrif, byddwch yn gallu cyrchu nifer o wasanaethau Cyngor Sir Penfro gan ddefnyddio'r un manylion mewngofnodi. Gweler yr hysbysiadau preifatrwydd adrannol perthnasol ar gyfer y gwasanaethau hyn.